Afon Volga
Oddi ar Wicipedia
Afon hwyaf Ewrop yw Afon Volga (Rwsieg Волга, Tatareg Идел / İdel, Mordvin Рав / Rav, Chuvash Атăл / Atăl). Mae'n llifo drwy ganol Rwsia Ewropeaidd. Lleolir ei tharddiad ym mryniau'r Valday, hanner ffordd rhwng St Petersburg a Moscow. Oddi yno, mae'n llifo i'r dwyrain drwy ddinasoedd Tver, Yaroslavl, Nizhny Novgorod a Kazan, cyn troi i'r de. Wedyn mae'n llifo drwy Ulyanovsk, Samara, Saratov, Volgograd ac Astrakhan cyn ymuno â'r Môr Caspiaidd. Ei hyd yw 3534km.