Afon Ystwyth
Oddi ar Wicipedia
Yr afon sy'n llifo trwy dref Aberystwyth yw Afon Ystwyth. Mae'n llifo i'r gorllweinol o'i ffynhonell ger Cronfa Ddŵr Craig Goch yng Nghwm Elan. Mae'n cyrraedd Bae Ceredigion yn Aberystwyth, lle mae'n rhannu aber ag Afon Rheidol.
Mae Dyffryn Ystwyth wedi ei boblogi'n wasgarog erbyn hyn, gyda ond ychydig o bentrefi megis Ysbyty Ystwyth, Cwm Ystwyth, Pontrhydygroes, Llanilar a Llanfarian. Maen canrifoedd gynt, roedd Dyffryn Ystwyth yn gymharol boblog oherwydd ei gyfoeth mwynol. Cloddwyd arian, plwm a sinc yn y dyffryn ers y cyfnod Rhufeinig, cyrrhaeddodd y gweithgarwch hyn ei uchafbwynt yn y 18fed ganrif. Lleolwyd y gloddfa fwyaf yng Nghwm Ystwyth. Dywedir mai 32 oedd yr oedran marw ar gyfartaledd yng Nghwm ystwyth, yn bennaf oherwydd gwenwyno plwm.
Mae'r afon dal yn cario lefelau dyrchafedig o sinc ac arian yn ei ddŵr, tryddiferiad o cynffonnau cloddfeydd wedi eu gadael arswylliad o geuffyrdd y cloddfeydd. I ffwrdd o'r diwedd diwydiannol hyn, mae'r dyffryn y un o'r rhai prydfertha yng Nghymru, gyda glannau serth coediog yn cario'r dŵr clir disglair. Yn yr hydref mae'n arbennig o brydferth, mae'r hydref yn denu nifer o ymwelwyr i ran ucha'r dyffryn ble mae madarch hud yn tyfu yn ôl pob son.