Aberystwyth
Oddi ar Wicipedia
Aberystwyth Ceredigion |
|
Aberystwyth yw tref fwyaf Ceredigion, gorllewin Cymru. Saif ar lan Bae Ceredigion lle rhed afonydd Rheidol ac Ystwyth i'r môr. Cododd Edmwnt, brawd y brenin Edward I o Loegr y castell yn 1277. Daeth yr harbwr yn bwysig yn y bedwaredd ganrif ar ddeg o ganlyniad i'r cloddfeydd plwm a oedd yn yr ardal.
Mae Aberystwyth yn gartref i sawl sefydliad a mudiad:
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Prifysgol Aberystwyth
- Coleg Llyfrgellwyr Cymru
- Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig
- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
- Undeb Amaethwyr Cymru
- Urdd Gobaith Cymru
Mae Aber yn dref gwyliau glan môr poblogaidd. Am fod y traeth yn wynebu'r gorllewin, gwelir machlud yr haul ar draws y môr ar nosweithiau braf.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ymwelodd Gerallt Gymro â Llanbadarn Fawr yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Agorwyd un o fanciau annibynnol cynharaf Cymru, Banc y Llong yn y dref yn 1762.
[golygu] Enwogion
Aberystwyth yw tref enedigol:
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ym 1916, 1952 a 1992. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1992
[golygu] Dyfyniadau am Aberystwyth
San Francisco Cymru, Aberystwyth
"Rauschgiftsuchtige?", Datblygu.
[golygu] Ysgolion
Yn Aberystwyth mae sawl ysgol. Mae dwy ysgol uwchradd, Penweddig ac Ysgol Penglais, ac ysgolion cynradd Plascrug, Cwmpadarn, Ysgol Gymraeg Aberystwyth a Llwyn-yr-Eos.
[golygu] Gefeilldrefi
|
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Aberystwyth-Online (Saesneg)
- AberWiki, Wici am Aberystwyth (Saesneg)
- Aberystwyth a'r Cylch (Saesneg)