Afon Zambezi
Oddi ar Wicipedia
Afon fawr yn Affrica Ddeheuol yw Afon Zambezi. Mae gan yr afon y daldir pedwerydd mwyaf ar gyfandir Affrica (tua 1,347,000 km²; 520,000 milltir sgwâr). Ei hyd yw 2740km (1700 milltir) - mwy na'r pellter rhwng Caerdydd ac Athen.
Mae'n tarddu yng ngogledd-orllewin Zambia, ac yn llifo i'r de trwy ddwyrain Angola cyn llifo'n ôl i Zambia a rhedeg ar gwrs dwyreiniol ar hyd Llain Caprivi ar y ffin â Namibia. Mae Afon Cunado yn ymuno â hi o Namibia. Wedyn mae'n ffurfio'r ffin rhwng Zambia a Zimbabwe lle ceir Rhaeadr Fictoria a Llyn Kariba a'i argae. Yna mae'n llifo i'r de-ddwyrain trwy coedwigoedd a savannah Mozambique, gan fynd trwy lyn artiffisial Argae Cahora Bassa, i aberu yng Nghefnfor India mewn delta anferth a chymhleth. Mae'r dinasoedd ar ei glannau yn cynnwys Lealui a Livingstone yn Zambia, a Zumbo, Tete, Sena a Chinde ym Mozambique.