Alexander I o Rwsia
Oddi ar Wicipedia
Tsar Rwsia o 1801 tan 1825 a Brenin Gwlad Pwyl o 1815 tan 1825 oedd Alexander I Pavlovich (Rwsieg Александр I Павлович) (12 / 23 Rhagfyr, 1777, St Petersburg - 19 Tachwedd / 1 Rhagfyr 1825, Taganrog). Yn ystod hanner cyntaf ei deyrnasiad cyflwynodd nifer o ddiwygiadau rhyddfrydol, ond yn ddiweddarach trodd at bolisïau ceidwadol gan ddileu llawer o'i diwygiadau cynharach.
[golygu] Bywyd cynnar
Roedd Alexander yn fab i Archddug Pawl Petrovich (wedyn Tsar Pawl) a Maria Fedorovna, Sophia Dorothea o Württemberg. O'i blentyndod cynnar ymlaen, roedd Alexander yn degan mewn brwydr rhwng ei dad a'i fam-gu, Catrin Fawr. Roedd Catrin eisiau i'w ŵyr hynaf gael addysg rhyddfrydol, ac felly dysgodd ef egwyddorion rheswm a natur Rousseau gan y tiwtor a drefnodd hi iddo o'r Swistir, Frederic Caesar de Laharpe. Ar y llaw arall, cafodd ef ddylanwad ei dad Tsar Pawl a'i athro milwrol, Nikolay Saltykov, drwy ymweliadau wythnosol i Gatchina, lle cafodd e wybod am draddodion unbennaeth y tsariaid. Gwelir tensiynau ei blentyndod yn ei bersonoliaeth drwy gydol ei deyrnasiad yn ei bolisïau anwadal. Yn bymtheg oed, ym 1793, priododd dywysoges o'r Almaen, Louise o Baden (Elizaveta), oedd hefyd yn ifanc, 14 blwydd oed. Daeth marwolaeth ei fam-gu dair blynedd yn ddiweddarach (Tachwedd 1796) â'i dad i'r orsedd. Roedd teynrasiad ei dad Pawl yn ystormus. Ceisiodd gyflwyno diwygiadau yn wyneb gwrthwynebiad ei gynhorwyr closaf a'i fab. Daeth Alexander i rym mewn amgylchiadau anodd. Cafodd Pawl ei ddiorseddu a'i lofruddio mewn coup d'état ym mis Mawrth 1801, a gosodwyd Alexander yn ei le. Er iddo gefnogi'r coup, mae'n debyg nad oedd Alexander wedi bod eisiau i'w dad gael ei ladd, a pharodd amgylchiadau ei ddyrchafiad iddo ddrwgdyio y cynghorwyr brenhinol.
Rhagflaenydd: Pawl I |
Tsar Rwsia 12 / 23 Mawrth 1801 – 19 Tachwedd / 1 Rhagfyr 1825 |
Olynydd: Niclas I |
Tywysogion a tsariaid Rwsia |
Tsariaid Rwsia |
Ifan IV | Fyodor I | Boris Godunov | Fyodor II | Ffug Dmitriy I | Vasiliy IV | Mihangel (Mikhail Romanov) | Aleksey | Fyodor III | Ifan V | Pedr I | Catrin I | Pedr II | Anna | Ifan VI | Elisabeth | Pedr III | Catrin II | Pawl I | Alexander I | Niclas I | Alexander II | Alexander III | Niclas II |