Ifan IV o Rwsia
Oddi ar Wicipedia
Tywysog mawr Moskva ac wedyn tsar Rwsia oedd Ifan IV Vasilyevich (25 Awst 1530 - 18 Mawrth 1584). Fe oedd teyrn cyntaf Rwsia i ddefnyddio'r teitl tsar. Cyfeirir ato yn aml gyda'i lysenw, Ifan yr Ofnadwy (Rwsieg Ива́н Гро́зный / Ivan Grozny).
Roedd Ifan yn unig fab i Vasily III a'i wraig Yelena Glinskaya. Bu farw ei dad yn 1533, ac yntau'n dair blwydd oed. Yn ei blentyndod cynnar, gweithredodd ei fam fel rhaglaw, ond bu farw hithau pan oedd Ifan yn wyth mlwydd oed. O hyn ymlaen, cafodd y wlad ei rheoli gan boyariaid (pendefigion), a'r teulu Shuysky yn bennaf yn eu plith, tan i Ifan gymryd yr awenau ym 1544. Teimlai Ifan i'r boyariaid ei esgeuluso a'i ddiystyru yn ystod ei blentyndod, ac mae'n bosib i'w brofion yr adeg honno fod wedi cyfrannu at ansefydlogrwydd ei feddwl yn ddiweddarach yn ei oes.
Coronwyd Ifan yn tsar yn unarbymtheg oed ar 16 Ionawr 1547. Roedd ei deyrnasiad cynnar yn amser heddychlon o foderneiddio – sefydlodd fyddin barhaol, diwygiodd y côd cyfreithiol, a sefydlodd y Zemsky Sobor, cyngor y bendefigaeth. Gwelwyd y wasg argraffu gyntaf yn Rwsia yn yr amser hon. Agorodd Ifan y Môr Gwyn a phorthladd Archangelsk i fasnachwyr Seisnig gan greu cysylltiadau masnachol newydd. Cryfhaodd rym gwladwriaeth ganolog Rwsia, ac ehangodd ei ffiniau, gan ychwanegu Kazan (1552) ac Astrakhan (1558) i'w deyrnas. Er mwyn dathlu ei fuddugoliaeth yn erbyn Khanaeth Kazan, gorchmynodd adeiladu Eglwys Gadeiriol Sant Basil ym Moscfa, a gafodd ei chwplhau yn 1561.
Tywysogion a tsariaid Rwsia |
Tsariaid Rwsia |
Ifan IV | Fyodor I | Boris Godunov | Fyodor II | Ffug Dmitriy I | Vasiliy IV | Mihangel (Mikhail Romanov) | Aleksey | Fyodor III | Ifan V | Pedr I | Catrin I | Pedr II | Anna | Ifan VI | Elisabeth | Pedr III | Catrin II | Pawl I | Alexander I | Niclas I | Alexander II | Alexander III | Niclas II |