Alun Michael
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Cymreig yw Alun Edward Michael (ganed 2 Awst 1943). Mae'n cynrychioli etholaeth De Caerdydd a Phenarth dros y Blaid Lafur ers 1987. Roedd yn weinidog iau yn y Swyddfa Gartref rhwng 1997 a 1998 cyn derbyn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl ymddiswyddiad Ron Davies ym mis Hydref 1998. Ar ôl etholiadau cyntaf i'r cynulliad ar 6 Mai 1999, fel arweinydd grŵp y Blaid Lafur o fewn y cynulliad, fe'i hetholwyd yn Brif Ysgrifennydd hefyd. Gwahanwyd swyddi Prif Ysgrifennydd y Cynulliad ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Gorffennaf 1999, pryd penodwyd Paul Murphy yn ysgrifennydd gwladol. Ymddiswyddodd fel prif ysgrifennydd ar 9 Chwefror 2000 ar ôl colli pleidlais hyder yn y cynulliad. Ers hynny mae wedi dal dwy swydd yn llywodraeth San Steffan: mae wedi bod yn ysgrifennydd gwladol (dros faterion gwledig) yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig o 2001 tan 2005, ac yn weinidog dros ddiwydiant a'r rhanbarthau yn Adran Masnach a Diwydiant o 2005 tan 2006. Collodd ei swydd yn aildrefnu'r llywodraeth ym mis Mai 2006.
Rhagflaenydd: Ron Davies |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru 27 Hydref 1998 – 28 Gorffennaf 1999 |
Olynydd: Paul Murphy |
Rhagflaenydd: Dim |
Prif Ysgrifennydd Cymru 12 Mai 1999 – 9 Chwefror 2000 |
Olynydd: Rhodri Morgan |