Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Oddi ar Wicipedia
Daeth swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fodolaeth ym mis Hydref 1964, a Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli oedd y cyntaf i'w llenwi. Penderfynodd llywodraeth San Steffan alluogi'r Ysgrifennydd i reoli gwariant ar ambell wasanaeth cyhoeddus a fu gynt o dan reolaeth adrannau eraill. Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym mis Ebrill 1965.
Yn ystod y 1980au a'r 1990au llywodraeth Geidwadol oedd mewn grym yn San Steffan. Oherwydd diffyg aelodau seneddol Ceidwadol yng Nghymru, o 1987 i 1997 bu'n rhaid edrych y tu allan i Gymru am ysgrifenyddion gwladol. Nid oedd y penderfyniad yn boblogaidd yng Nghymru, ac roedd golygfeydd fel John Redwood yn methu meimio'r anthem genedlaethol yn tanlinellu'r ffaith hon.
Yn dilyn sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth newid mawr yn rôl yr Ysgrifennydd Gwladol, gan fod y rhan fwyaf o'i swyddogaethau bellach yn nwylo'r corff newydd. Diddymwyd y Swyddfa Gymreig, ond cadwyd swydd yr ysgrifennydd gwladol, gan ei wneud yn bennaeth ar swyddfa newydd, Swyddfa Cymru.
O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru (1998) gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru fynychu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a siarad ynddynt yn ogystal â chael arian o'r Senedd. Fodd bynnag, mae'n gorfod trosglwyddo hynny i'r Cynlliad Cenedlaethol, heblaw am yr arian sydd yn angenrheidiol i redeg ei swyddfa ei hun. Mae'n rhaid iddo ymgynghori â'r cynulliad dros raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth hefyd.
Rhestr Ysgrifennyddion Gwladol Cymru
- James Griffiths (18 Hydref 1964 - 5 Ebrill 1966)
- Cledwyn Hughes (5 Ebrill 1966 - 5 Ebrill 1968)
- George Thomas (5 Ebrill 1968 - 20 Mehefin 1970)
- Peter Thomas (20 Mehefin 1970 - 5 Mawrth 1974)
- John Morris (5 Mawrth 1974 - 5 Mai 1979)
- Nicholas Edwards (5 Mai 1979 - 13 Mehefin 1987)
- Peter Walker (13 Mehefin 1987 - 4 Mai 1990)
- David Hunt (4 Mai 1990 - 27 Mai 1993)
- John Redwood (27 Mai 1993 - 26 Mehefin 1995)
- David Hunt (26 Mehefin 1995 - 5 Gorffennaf 1995)
- William Hague (5 Gorffennaf 1995 - 3 Mai 1997)
- Ron Davies (3 Mai 1997 - 27 Hydref 1998)
- Alun Michael (27 Hydref 1998 - 28 Gorffennaf 1999)
- Paul Murphy (28 Gorffennaf 1999 - 24 Hydref 2002)
- Peter Hain (24 Hydref 2002 - 24 Ionawr 2008)
- Paul Murphy (24 Ionawr 2008 - )