Alwyn D. Rees
Oddi ar Wicipedia
Roedd Alwyn David Rees (27 Mawrth 1911 - Rhagfyr 1974), yn ysgrifennu fel Alwyn D. Rees, yn ddarlithydd prifysgol a ddaeth yn adnabyddus fel awdur nifer o lyfrau safonol ac fel golygydd y cylchgrawn Barn.
Ganed Alwyn D. Rees yn Llanarel, Coalbrook, Gorseinon; roedd ei dad yn weindiwr mewn pwll glo. Daeth ei frawd Brinley Rees hefyd yn adnabyddus, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd y ddau lyfr, Celtic Heritage, sy'n ceisio gosod yr etifeddiaeth Geltaidd mewn fframwaith ehangach Indo-Ewropeaidd, ar y cyd. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gan raddio mewn Daearyddiaeth ac Anthropoleg yn 1933. Bu'n diwtor yn Adran Allanol y coleg o 1936 hyd 1946, yna'n ddarlithydd yn yr Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg hyd 1949 pan apwyntiwyd ef yn Gyfarwyddwr yr Adran Efrydiau Allanol. Ystyrir ei lyfr Life in a Welsh countryside, astudiaeth gymdeithasegol o bentref Llanfihangel yng Ngwynfa, yn glasur.
Daeth yn olygydd y cylchgrawn Barn yn Chwefror 1966, a daeth i amlygrwydd cenedlaethol trwy ei ysgrifau ynddo. Roedd yn gefnogwr brŵd i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu hefyd yn olygydd Yr Einion/The Welsh Anvil o 1949 hyd 1958.
[golygu] Gweithiau
- Adfeilion : sylwadau ar argyfwng ein dyddiau ni (1943)
- Celtic Heritage: ancient tradition in Ireland and Wales (gyda Brinley Rees) (1961)
- Life in a Welsh countryside : a social study of Llanfihangel yng Ngwynfa.
- Sylfeini gweriniaeth
- Welsh rural communities (golygydd gyda Elwyn Davies) (1960)
- Ym marn Alwyn D. Rees, casgliad o'i erthyglau yn Barn, wedi'u golygu gan Bobi Jones (1976)