Barn (cylchgrawn)
Oddi ar Wicipedia
Cylchgrawn Cymraeg materion cyfoes yw Barn, a sefydlwyd yn 1962. Mae'n fisolyn sydd wedi rhedeg i dros 500 rhifyn hyd yn hyn. Emlyn Evans oedd y golygydd cyntaf ac fe'i cyhoeddid gan Llyfrau'r Dryw, Llandybïe (ac Abertawe yn ddiweddarach). Ei olygydd tan yn ddiweddar oedd Simon Brooks.
Mae gan y cylchgrawn le amlwg yn hanes yr iaith Gymraeg a'r mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru yn ail hanner yr 20fed ganrif, yn arbennig dan olygyddiaeth Alwyn D. Rees. Adlewyrchai ei gynnwys a'i safbwynt golygyddol beiddgar ymdrechion Cymdeithas yr Iaith i sicrhau Deddf iaith newydd, y twf yng nghefnogaeth Plaid Cymru, yr ymgyrch llosgi tai haf a materion eraill.
Nid dim ond safbwyntiau cenedlaethdeb Cymreig sy'n cael ei gynrychioli yn yr erthyglau, ac mae aelodau o'r pleidiau Prydieinig wedi cael eu gwahodd i gyfrannu erthyglau, gan gynnwys cyfieithiad erthygl gan Chris Bryant hyd yn oed. Mae materion Prydienig a rhyngwladol yn cael eu trafod hefyd, ac yn y blynyddoedd diweddar mae pynicau ysgafnach megis celf, teithio, ffilm a cherddoriaeth yn cael lle yn y cylchgrawn.
[golygu] Golygyddion
- Emlyn Evans
- Aneirin Talfan Davies
- Alwyn D. Rees
- Gwyn Erfyl
- Simon Brooks
- Dyfrig Jones