Americanwr Cymreig
Oddi ar Wicipedia

Dinasyddion yr Unol Daleithiau gyda'u llinach yn tarddu o Gymru yw'r Americanwyr Cymreig, a gaent eu disgrifio fel Cymreig-Americanaidd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Nifer yr Americanwyr Cymreig
Yng Nghyfrifiad 2000, nodir llinach Gymreig gan 1.7 miliwn o Americanwyr,[1] sef 0.6% o holl boblogaeth yr UDA. Mae hyn yn cymharu gyda phoblogaeth o 2.9 miliwn yng Nghymru.
Serch hyn, y cyfenw mwyaf cyffredin ond tri yn America yw Jones, a ystirir yn enw Cymreig. Mae gan dros 0.6% o Americanwyr y cyfenw hwn,[2] sydd yn awgrymu bod cyfradd uwch o linach Gymreig na ddynodir gan hunan-adnabyddiaeth os cynhwysir cyfenwau Cymreig eraill megis Jenkins, Williams, Edwards ac Evans. Ond mae'n rhaid cofio bod cyfran uchel o'r boblogaeth Affro-Americanaidd gyda chyfenwau Cymreig oherwydd cread cyfenwau o enwau cyntaf eu tadau (e.e. John ==> Jones) mewn ffordd debyg i'r arfer Cymreig, ac mae cenedlaethoedd hir wedi defnyddio cyfenwau cyn-berchenogion eu hynafiaid yn dilyn rhyddfreiniad y caethweision.
[golygu] Mewnfudiad Cymreig i'r Unol Daleithiau
Ers ganrifoedd bu hanes Madog – mab Owain Gwynedd, Tywysog Gwynedd – a'i daith ac anheddiad yn America yn cael ei adrodd i Gymry ifanc, ond heddiw ystirir y straeon i fod heb unrhyw sylfaen hanesyddol.
Yn yr ail ganrif ar bymtheg, bu mudiad enfawr o Grynwyr Cymreig i Bennsylvania, lle sefydlir y Tract Cymreig. Erbyn 1700, roedd tua traean o boblogaeth y drefedigaeth (amcangyfrifwyd fel 20 000) yn Gymry. Mae nifer o enwau lleoedd Cymraeg yn yr ardal yma. Bu ail don o fewnfudiad yn hwyr y 18fed ganrif, a ddangosir gan wladfa Gymreig enwog o'r enw Cambria a sefydlir gan Morgan John Rhys yn beth sydd nawr yn Sir Cambria, Pennsylvania.
Bu tyrfâu o fewnfudwyr o Gymru i'r Unol Daleithiau yn y 19eg ganrif, yn enwedig i Ohio. Dywedir bod gan tua 20% o boblogaeth Utah hynafiaid Cymreig.
Ffermwyr oedd mwyafrif y cyfaneddwyr Cymreig ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nes ymlaen bu mewnfudiad gan lowyr i feysydd glo Ohio a Phennsylvania a gan chwarelwyr llechfaen o Ogledd Cymru i'r ardal Slate Valley ("Dyffryn Llechfaen") yn Vermont a Thalaith Efrog Newydd.
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sefydlwyd Dinas Malad, Idaho. Dechreuodd fel gwladfa i Gymry Mormonaidd, ac heddiw mae'n enwog am gael mwy o ddisgynyddion Cymreig y pen nag unrhywle arall y tu allan i Gymru.[3] Lliwiau'r uwchysgol leol yw rhai baner Cymru a llysenw'r ysgol yw "Dreigiau Malad".
[golygu] Diwylliant Cymreig yn yr Unol Daleithiau
Mae gan Siroedd Jackson a Gallia, Ohio, dylanwad Cymreig cryf, ac yn aml gelwir yr ardal yn "Geredigion Fychan". Lleolir Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymraeg (The Madog Center for Welsh Studies) ym Mhrifysgol Rio Grande, sydd yn yr ardal yma.
[golygu] Dydd Gŵyl Dewi

Dathlir Dydd Gŵyl Dewi gan nifer o Americanwyr Cymreig. Cafodd adeilad yr Empire State ei oleuo gyda lliwiau baner Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006.[4]
[golygu] Dylanwad ar wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau
Bu rhwng traean a hanner o lofnodwyr Datganiad Annibyniaeth yr UDA gyda llinach Gymreig. Mae cartiau achau Hillary Clinton, Thomas Jefferson, George Washington, Abraham Lincoln, Al Gore ac hyd yn oedd yr arlywydd cyfredol George W. Bush yn cynnwys Cymro neu Gymraes. Dywedodd Arlywydd Bush ym Mawrth 2006: "Mae mewnfudwyr Cymreig ac Americanwyr Cymreig wedi gwneud cyfraniadau enfawr i drefn lywodraethol America."[4]
Yn etholiad 1860 (ag ennillwyd gan y Gweriniaethwr Lincoln), argraffodd y Gweriniaethwyr 100 000 o bamffledi etholiadol Cymraeg, a dosbarthodd nhw i'r Cymry Cymraeg er mwyn ennill pleidleisiau.[5]
[golygu] Americanwyr Cymreig enwog
-
Gweler hefyd: Categori:Americanwyr Cymreig
[golygu] Gweler hefyd
- Archentwr Cymreig
- Awstraliad Cymreig
- Canadiad Cymreig
- Enwau lleoedd o darddiad Cymreig yn yr Unol Daleithiau
- Enwau lleoedd sy'n tarddu o enwau Cymry yn yr Unol Daleithiau
- Rhestr Americanwyr Cymreig
- Y Tract Cymreig
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Ystadegau Llinachau Cyfrifiad 2000
- ↑ (Saesneg) Ystadegau Enwau Cyfrifiad 1990
- ↑ "Gwyl Gymreig mewn tref yn America", BBC, 21 Gorffennaf, 2005.
- ↑ 4.0 4.1 "Parc Disney yn dathlu Gwyl Dewi", BBC, 2 Mawrth, 2006.
- ↑ "Dylanwad Cymry ar Etholiad 1860", BBC, 2 Tachwedd, 2004.
[golygu] Ffynonellau
- Amanda Thomas, A Welsh Miscellany (Zymurgy Publishing, 2004)
- WELSH HISTORY, The Welsh in North America, Utah
[golygu] Dolenni allanol
- Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America
- Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymraeg
- (Saesneg) Gŵyl Gymreig Dyffryn Malad, Idaho
- Prosiect Cymru-Ohio Archifau'r Cymry a ymfudodd i Ohio, ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru