George Washington
Oddi ar Wicipedia
George Washington | |
![]() |
|
|
|
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1961 – 22 Tachwedd 1963 |
|
Is-Arlywydd(ion) | John Adams |
---|---|
Rhagflaenydd | Dim |
Olynydd | John Adams |
|
|
Geni | 22 Chwefror 1732 Sir Westmoreland County Virginia, America Pryndeinig |
Marw | 14 Rhagfyr 1799 Mynydd Vernon, Virginia, UDA |
Plaid wleidyddol | Ffederalwr |
Priod | Martha Washington |
Llofnod | ![]() |
George Washington (22 Chwefror, 1732–14 Rhagfyr, 1799) oedd arlywydd cyntaf Unol Daleithiau America; fe'i ganwyd yn Westmoreland County, Virginia. Arweiniodd Byddin Cyfandirol America i fuddugoliaeth yn erbyn Prydain yn Rhyfel Annibyniaeth America (1775-1783). Gelwir Washington weithiau "Tad ei Wlad" am iddo chwarae rhan mor ganolog yn sefydlu'r Unol Daleithiau.
[golygu] Ei fywyd
Yn ddyn ifanc, gweithiai Washington fel tirfesurydd cefn gwlad gan ennill dealltwriaeth a fyddai'n bwysig iawn yn ddiweddarach o ddaearyddiaeth ei dalaith enedigol.
Cafodd ei brofiad cyntaf fel arweinydd milwrol yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a'r brodorion Americanaidd (1754-1763). Oherwydd ei brofiad a'i wybodaeth o dir Virginia, fe'i etholwyd yn arweinydd pennaf y lluoedd Americanaidd yn 1775 gan yr Ail Gyngres Gyfandirol ar ddechrau Rhyfel Annibyniaeth America. Cliriodd y Prydeinwyr allan o Boston yn 1776 ond bu bron iddo gael ei ddal ar ôl colli Efrog Newydd gyda cholledion trymion yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Gwnaeth i fyny am hynny trwy groesi Afon Delaware yn y gaeaf a threchu unedau Prydeinig yn New Jersey. Aeth yn ei flaen i drechu a dal y ddwy brif fyddin Brydeinig yn Saratoga (1777) ac wedyn yn Yorktown (1781).
Roedd yn trafod y berthynas rhwng y taleithiau a'u milisias, yn gweithio gyda Congress i gynnal y fyddin Gyfandirol, yn trafod â'r cynghreiriaid Ffrengig ac yn delio â dadlau rhwng staff y fyddin, a daeth i gynrychioli yn ei berson nerth milwrol a gwleidyddol y genedl newydd.
Ar ddiwedd y rhyfel annibyniaeth yn 1783 ymddeolodd Washington i'w ystâd yn Mount Vernon. Ymyrodd yn bersonol i lywio'r Gynhadledd Gyfansoddiadol a ddrafftiodd fersiwn cryfach o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn 1787.
Ar 30 Ebrill, 1789, daeth Washington yn Arlywydd yr Unol Daleithiau newydd a chreodd system o lywodraethu trwy gabinet a dorodd â'r traddodiad seneddol. Bu ganddo ran flaenllaw mewn creu arferion a rheolau y llywodraeth newydd a detholwyd ei harweinwyr cyntaf i gyd ganddo yn bersonol. Cefnogai gynlluniau Alexander Hamilton i greu llywodraeth ganolog rymus trwy ariannu'r holl ddyledion cenedlaethol a thaleithiol, creu system treth canolog a sefydlu banc cenedlaethol. Nid oedd pawb o blaid y canoli grym hynny a phan wrthryfelodd Pennsylvania yn y Chwyldro Chwisgi bu rhaid i Washington arwain byddin i'w thawelu. Arwyddodd Gytundeb Jay yn 1795 i osgoi rhyfel bellach â Phrydain, er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig pleidwyr Thomas Jefferson. Cefnogai'r Blaid Ffederal (rhagflaenydd y Blaid Weriniaethol) er nad oedd yn aelod ohoni. Sefydlodd yr arfer nad oedd arlywydd i wasanaethu am fwy na ddau dymor ac ymddeolodd unwaith yn rhagor i'w ystâd yn Virginia yn 1797, lle bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1799.
[golygu] Dywediadau
- "Nid oes yr un genedl yn ddigon da i lywodraethu cenedl arall".
Arlywyddion Unol Daleithiau America | ![]() |
---|---|
Washington | J Adams | Jefferson | Madison | Monroe | JQ Adams | Jackson | Van Buren | W Harrison | Tyler | Polk | Taylor | Fillmore | Pierce | Buchanan | Lincoln | A Johnson | Grant | Hayes | Garfield | Arthur | Cleveland | B Harrison | Cleveland | McKinley | T Roosevelt | Taft | Wilson | Harding | Coolidge | Hoover | F Roosevelt | Truman | Eisenhower | Kennedy | L Johnson | Nixon | Ford | Carter | Reagan | GHW Bush | Clinton | GW Bush |