Amhareg
Oddi ar Wicipedia
Amhareg yw iaith yr Amhariaid, grŵp ethnig mwyaf Ethiopia, ac iaith swyddogol y wlad honno. Mae hi'n iaith Semitaidd yn y teulu ieithyddol Affro-Asiaidd. Mae tua 27,000,000 o bobl yn siarad yr iaith, a'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn Ethiopia. Credir fod tua 7-15 miliwn o bobl eraill yn siarad Amhareg fel ail iaith a'r tu allan i Ethiopia. Mae rhai Rastaffariaid yn siarad yr iaith hefyd.
Mae'r iaith Amhareg yn deillio o'r iaith Ethiopeg (Ge'ez), iaith litwrgaidd hynafol Eglwys Ethiopia. Er ei bod yn iaith Semitaidd o ran gramadeg mae'r Amhareg yn cynnwys nifer fawr o eiriau benthyg o'r ieithoedd Cwshiteg brodorol a siaredid yn Ethiopia a rhannau o'r Sudan ac aradaloedd eraill yn Horn Affrica yn y gorffennol.
[golygu] Geiriaduron
- Amsalu Aklilu (1973) English-Amharic dictionary. Oxford University Press. ISBN 0-19-572264-7
- Baeteman, J. (1929) Dictionnaire amarigna-français. Diré-Daoua
- Kane, Thomas L. (1990) Amharic-English Dictionary. (2 gyf.) Wiesbaden: Otto Harrassowitz. ISBN 3-447-02871-8
- Leslau, Wolf (1976) Concise Amharic Dictionary. (adargraffiad: 1996) Berkeley a Los Angeles: University of California Press. ISBN 0-520-20501-4
Argraffiad Amhareg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd