Horn Affrica
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).
Mae Horn Affrica neu Benrhyn Somalia yn benrhyn yn Nwyrain Affrica sy'n ymwthio allan am gannoedd o gilomedrau i fewn i Fôr Arabia, ac mae'n gorwedd ar hyd ochr ddeheuol Gwlff Aden. Hi yw'r allaniad mwyaf dwyreiniol cyfandir yr Affrig.
Mae'r term hefyd yn golygu'r rhanbarth mwy sy'n cynnwys gwledydd Djibouti, Ethiopia, Eritrea a Somalia. Fel y cyfryw, mae'r ardal yn tua 2,000,000 km² efo rhyw 86.5 miliwn o bobl. Weithiau caiff Swdan a Chenia eu cynnwys hefyd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth a hinsawdd
Mae Horn Affrica yn ardal sych sydd bron yn gytbell o'r cyhydedd a Throfan Cancr.
Ystyrir Socotra, ynys fach ger arfordir Somalia sydd yng Nghefnfor India, fel rhan o Affrica. Mae'n 3600 km². Mae'n diriogaeth o Iemen, gwlad mwyaf deheuol Arabia.
[golygu] Hanes
[golygu] Hanes modern
Mae Horn Affrica yn rhanbarth sydd yn dioddef o newyn, rhyfel, sychder a thrychinebau naturiol yn aml. Rhwng 1982 a 1992 marwodd tua dwy filiwn o bobl fel canlyniad o ryfel a newyn. Yn ddiweddar mae argyfwng bwyd wedi difrodi'r rhanbarth.
Ers 2002 mae'r ardal wedi bod o dan sylw'r Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen, ac un ar ddeg o wledydd Affricanaidd ynghylch y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth.
[golygu] Economi
Mae gwledydd y rhanbarth yn dibynnu ar rai allforion allweddol:
- Swdan: Cotwm – 50% o'r holl allforion.
- Ethiopia: Coffi – 80% o'r holl allforion.
- Somalia: Bananas a da byw – dros 50% o'r holl allforion.
[golygu] Ecoleg
Mae Horn Affrica yn dioddef o orbori ac mae dim ond 5% o'i gynefin gwreiddiol yn aros. Bygythiad mawr arall ar Socotra yw datblygiad isadeiledd.