Amposta
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn Nhalaith Tarragona, Catalonia yw Amposta. Saif yn ne Catalonia, ar lannau Afon Ebro a gerllaw Môr y Canoldir, 8 medr uwch lefel y môr. Roedd y boblogaeth yn 20,135 yn Ionawr 2007. Amaethyddieth, yn enwedig tyfu reis, yw'r diwydiant pwysicaf, ond mae cryn dipyn o ddiwydiannau cynhyrchu bwydydd ac eraill wedi datblygu ers blynyddoedd olaf yr 20fed ganrif. Gerllaw mae Parc Naturiol Delta yr Ebro.