Catalonia
Oddi ar Wicipedia
|
|||
Prifddinas | Barcelona | ||
Arwynebedd – Cyfanswm – % o Sbaen |
Rhenc 6fed 32,114 km² 6.3% |
||
Poblogaeth – Cyfanswm – % o Sbaen – Dwysedd |
Rhenc 2fed 7,083,618 15.98% 220.57/km² |
||
ISO 3166-2 | CT | ||
Arlywydd y Generalitat | José Montilla (PSC) | ||
Generalitat de Catalunya |
Mae Cymuned Ymreolaethol Catalonia (Catalaneg: Catalunya, Araneg: Catalunha Sbaeneg: Cataluña) yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, ond hefyd yn cael ei chyfrif fel gwlad ar wahan gan lawer o'r trigolion.
Mae Catalonia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â Ffrainc ac Andorra i'r gogledd, â Môr y Canoldir yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol Aragón yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalonia.
Rhennir Catalonia yn bedair talaith:
Mae'r taleithiau hyn yn cymeryd eu henwau o'u prifddinasoedd: Barcelona, Girona, Lleida a Tarragona.
[golygu] Ieithoedd
Mae tair iaith swyddogol yng Nghatalonia: Catalaneg, Sbaeneg ac Araneg, a siaredir yn Val d'Aran yn y gogledd-orllewin. Mae canran uchel ym medru Catalaneg:
Catalaneg | ||
---|---|---|
Yn medru | Nifer | Canran |
Deall | 5.872.202 | 94,5% |
Siarad | 4.630.640 | 74,5% |
Darllen | 4.621.404 | 74,4% |
Ysgrifennu | 3.093.223 | 49,8% |
Cyfanswm | 6.215.281 | 100% |
[golygu] Chwaraeon
Er bod gan y wlad ei thîm pêl-droed cenedlaethol, nid oes gan Catalonia statws fel gwlad bêl-droed gydnabyddiaedig gan UEFA ac FIFA. Serch hynny ceir ymgyrch i ennill y statws yma a chwaraeir gemau di-statws gan y tîm.
Cymunedau ymreolaethol Sbaen | |
---|---|
Cymunedau Ymreolaethol | Andalucía • Aragón • Asturias • Ynysoedd Balearig • Canarias • Cantabria • Castillia-La Mancha • Castilla y León • Catalonia • Comunidad Valenciana • Euskadi • Extremadura • Galicia • Comunidad de Madrid • Murcia • Navarra • La Rioja |
Dinasoedd ymreolaethol | Ceuta • Melilla |