Anhafaledd Cauchy-Schwarz
Oddi ar Wicipedia
Mewn mathemateg, anhafaledd sy'n defnyddiol mewn sawl sefyllfa gwahanol yw anhafaledd Cauchy–Schwarz, (hefyd anhafaledd Schwarz, Anhafaledd Cauchy, neu Anhafaledd Cauchy–Bunyakovski–Schwarz).
Cynrychiolir yr anhafaledd yn gryno fel a ganlyn:
Mae'r ddau ochr yn hafal os, a dim ond os, y mae
Ffordd arall o fynegi hyn yw dweud fod
ar gyfer unrhyw elfennau x ac y o ofod lluoswm mewnol real neu gymhlyg. Y mae'r dau ochr yn hafal os, a dim ond os y mae x ac y yn llinol-dibynnol (neu, o feddwl yn geometraidd, yn gyfochrog).
Mae'r anhafaledd felly'n darparu cysyniad o'r "ongl rhwng dau fector" i ofod lluoswm mewnol, lle nid yw geometreg Ewclidaidd yn gwneud synnwyr o reidrwydd. Mae o felly'n cyfiawnhau meddwl am ofodau lluoswm mewnol fel cyffredinoliad o ofod Ewclidaidd.
Canlyniad pwysig o anhafaledd Cauchy–Schwarz yw'r ffaith fod lluoswm mewnol yn ffwythiant di-dor.
Rhoddir ffurf arall o'r anhafaledd gan ddefnyddio nodiant norm:
Profwyd fersiwn meidraidd-ddimensiynol yr anhafaledd hwn ar gyfer fectorau real gan Cauchy yn 1821, ac yn 1859 profodd V.Ya.Bunyakovsky fod yn bosib canfod ffurf integraidd o anhafaledd Cauchy. Profwyd y canlyniad cyffredinol ar gyfer gofod lluoswm mewnol gan K.H.A.Schwarz ym 1885.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Prawf
Gan fod yn amlwg fod yr anhafaledd yn wir pan mae y = 0, fe gawn gymryd fod <y, y> yn an-sero. Gadewch i λ fod yn rhif cymhlyg. Yna mae
Gan ddewis
gwelwn fod
sy'n wir os, a dim ond os y mae
hynny yw:
Sef anhafaledd Cauchy-Schwarz.
[golygu] Achosion arbennig nodedig
[golygu] Rn
Mewn gofod Ewclidaidd Rn, gyda'r lluoswm mewnol arferol, dyma anhafaledd Cauchy-Schwarz:
[golygu] L2
Yn y gofod lluoswm mewnol o ffwythiannau sqwâr-integraidd â gwerthoedd cymhlyg, mae gennym fod:
Mae anhafaledd Hölder yn gyffredinoliad o hyn.
[golygu] Defnydd
Fe'i defnyddir yn aml i brofi'r anhafeledd triongl ar gyfer y lluoswm mewnol: cymerwch fectorau x ac y,
Mae cymryd ail-israddau'n rhoi'r anhafaledd triongl.
Gellir defnyddion anhafaledd Cauchy–Schwarz wrth brofi anhafaledd Bessel.
Deillir ffurf cyffredinol egwyddor ansicrwydd Heisenberg trwy ddefnyddioanhafaledd Cauchy-Schwarz inequality yn y gofod lluoswm mewnol o ffwythiannau ton ffisegol.
[golygu] Cyffredinoliadau
Mae yna sawl cyffredinoliad posib o anhafaledd Cauchy-Schwarz yng nghyd-destyn haniaeth gweithredyddion.