Argae'r Tri Cheunant
Oddi ar Wicipedia
Argae hydroelectrig mwyaf y byd yw Argae'r Tri Chuenant, wedi'i leoli ar ddraws yr Afon Yangtze yn Tsieina. Dechreuodd adeiladwaith yn 1993 a gorffennodd gwaith adeiladol dros ddegawd wedyn ar 20 Mai, 2006, naw mis o flaen ei amserlen, ond mae nifer o generaduron dal angen cael eu gosod a ni ddisgwylir yr argae bod yn hollol weithredol nes 2009.
Mae llywodraeth Gweriniaeth Pobl China yn honni bydd yr argae yn atal y Yangtze rhag gorlifo, ac felly yn achub bywydau pobl cyfagos.[1] Mantais mawr arall bydd yr 18 000 kW a gynhyrchir pob awr gan dyrbeini yn yr argae. Ond fel y rhan fwyaf o argaeau, mae adeiladiad Argae'r Tri Cheunant wedi bod yn bwnc dadleuol iawn, gan ei fydd yn achosi nifer o broblemau amgylcheddol a chymdeithasol. Bydd cymaint ag 1.2 filiwn o bobl mewn peryg o dod yn ddigartref a bydd nifer o rywogaethau yn wynebu difodiant, yn cynnwys y Baiji, math o ddolffin unigryw gwyn.[2]
[golygu] Model yr argae
Dyma'r modelau a adeiladir er mwyn dangos beth bydd yr argae yn edrych fel yn 2009, pryd cwblheir.
[golygu] Cyfeiriadau
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Three Gorges Dam – gwefan ryngweithiol