Arthur Evans
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Syr Arthur John Evans (8 Gorffennaf, 1851, Nash Mills, Swydd Hertford - 11 Gorffennaf, 1941) yn hynafiaethydd ac archaeolegydd enwog. Roedd yn fab i'r diwydianwr Syr John Evans (1823 - 1908), yntau'n archeolegydd.
Roedd Arthur Evans yn geidwad Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen o 1884 hyd 1908, lle ymddiddorai mewn arian bath hynafol a seliau hen wareiddiad Crete.
Fe'i cofir yn bennaf am ei waith archaeolegol arloesol yn cloddio safle Knossos, ar ynys Crete, prifddinas gwareiddiaid Minoa, rhwng 1899 a 1935.
[golygu] Darllen pellach
- Evans, Joan, Time and Chance: The Story of Arthur Evans and His Forebears (Llundain: Longmans, Green & Co., 1943)
- MacGillivray, Joseph Alexander, Minotaur: Sir Arthur Evans and the Archaeology of the Minoan Myth (Efrog Newydd: Hill & Wang, 2000 (ISBN 0224043528); Llundain: Jonathan Cape, 2000 (ISBN 0224043528); Llundain: Pimlico, 2001 (clawr meddal, ISBN 0712673016).