Badakhshan (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Mae Badakhshan (Perseg: بدخشان Badakhshān) yn un o daleithiau Afghanistan, sy'n cynnwys 29 ardal. Lleolir y dalaith yng ngogledd-ddwyrain y wlad, rhwng pen gogleddol yr Hindu Kush a'r Amu Darya. Mae'n rhan o ranbarth hanesyddol Badakhshan. Fayzabad yw prifddinas y dalaith.
Mae Badakhshan yn ffinio ar Tajikistan i'r gogledd a'r dwyrain. Ymestyn rhimyn tenau o'r dalaith, a adnabyddir fel Coridor Wakhan, uwchben talaith Chitral yng ngogledd Pakistan i ffinio â Tsieina. Mae gan y dalaith cyfanswm o 44,059 km² o dir, gyda'r rhan fwyaf ohonno yn cael ei llenwi gan fynyddoedd uchel yr Hindu Kush a'r Pamir.
Roedd Badakhshan yn gorwedd ar Lwybr y Sidan, yr hen lwybr masnach a gysylltai Tsieina a'r Dwyrain Canol trwy Ganolbarth Asia. Ers cwymp y Taliban mae llywodraeth Tsieina wedi cyfrannu'n sylweddol at gost prosiectau i wella ffyrdd y dalaith, efallai gyda golwg ar ei chyfoeth mwynol.
Tajikiaid yw'r mwyafrif o'r 1,542,000 trigolion, gyda lleiafrifoedd Uzbek a Kyrgyz.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o weddill Afghanistan, mae'r Sunni yn ffurfio mwyafrif o'r boblogaeth, a cheir yn ogystal lleiafrif Mwslem Ismailia. Oherwydd y gwahaniaethau ethnig ac enwadol hyn, ni fu'r dalaith erioed yn gadarnle i'r Taliban. Ar sawl ystyr mae'r ardal yn agosach yn ddiwyllianol i wledydd Mwslim Canolbarth Asia i'r gogledd, fel Kyrgyzstan.
Taleithiau Afghanistan | ![]() |
---|---|
Badakhshan | Badghis | Baghlan | Balkh | Bamyan | Daykundi | Farah | Faryab | Ghazni | Ghor | Helmand | Herat | Jowzjan vJowzjan | Kabul | Kandahar | Kapisa | Khost | Kunar | Kunduz | Laghman | Lowgar | Nangarhar | Nimruz | Nurestan | Oruzgan | Paktia | Paktika | Panjshir | Parwan | Samangan | Sar-e Pol | Takhar | Wardak | Zabul |