Nimruz
Oddi ar Wicipedia
Y mae Nimruz neu Nimroz (Balochi/Pashto: نیمروز) yn un o 34 talaith Afghanistan. Fe'i lleolir yn ne-orllewin Afghanistan ar y ffin ag Iran a Pacistan. Mae gan Nimruz arwynebedd tir o tua 41,000 km² a phoblogaeth o tua 149,000 (amcangyfriad, 2002). Nimroz yw'r dalaith leiaf poblog yn y wlad gan fod cyfran mawr o'r tir yn anial neu led-anial. Mae'r mwyafrif yn bobl Pashtoon, gyda lleiafrif o bobl Balochi. Pashto yw'r brif iaith gyda Balochi a Dari yn cael eu siarad hefyd. Zaranj yw prifddinas y dalaith a'r unig drigfa fawr.
Mae Afon Helmand yn llifo o dalaith Helmand i Nimruz lle mae'n troi i'r gorllewin ac yna i'r gogledd-orllewin i ymgolli yn llyn corsiog Halmun Helmand, ar y ffin ag Iran.
[golygu] Ardaloedd
- Chahar Burjak
- Chakhansur
- Kang (ardal)
- Khash Rod
- Zaranj (prifddinas)
[golygu] Trefi a phentrefi
- Chakhansur
- Zaranj
Taleithiau Afghanistan | ![]() |
---|---|
Badakhshan | Badghis | Baghlan | Balkh | Bamyan | Daykundi | Farah | Faryab | Ghazni | Ghor | Helmand | Herat | Jowzjan vJowzjan | Kabul | Kandahar | Kapisa | Khost | Kunar | Kunduz | Laghman | Lowgar | Nangarhar | Nimruz | Nurestan | Oruzgan | Paktia | Paktika | Panjshir | Parwan | Samangan | Sar-e Pol | Takhar | Wardak | Zabul |