Banc Gogledd a Deheudir Cymru
Oddi ar Wicipedia
Banc Cymreig a sefydlwyd yn 1836 oedd Banc Gogledd a Deheudir Cymru, y pwysicaf o'r banciau annibynnol niferus a sefydlid yng Nghymru yn y 18fed ganrif a'r 19eg.
Yn 1901 cymerodd drosodd Fanc Leyland a Bullin (sefydlwyd 1807). Yn 1908 cymerwyd y banc Cymreig ei hun drosodd gan y banc Seisnig Fanc y Midland.
Yn ei ddydd roedd Banc Gogledd a Deheudir Cymru yn eithaf llwyddianus, gyda changhennau ledled Cymru (e.e. yng Nghaegybi, Bae Colwyn, ac ati) a hefyd mewn rhai llefydd yn Lloegr (Lerpwl, er enghraifft). Mae sawl adeilad ar strydoedd mawr Cymru yn dal i ddwyn meini ag enw'r banc arno.
[golygu] Llyfryddiaeth
- W.F. Crick a J.E. Wadsworth, Canrif o Hanes Banc Gogledd a Deheudir Cymru (Banc y Midland, 1936). Llyfr bach 30 tud. sy'n olrhain hanes y banc.