Banciau Cymru
Oddi ar Wicipedia
Yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif gwelid nifer o fanciau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn agor yng Nhgymru. Cyn hynny roedd y Cymry'n ddibynnol ar fanciau Lloegr (cafodd rhai o'r banciau hynny eu sefydlu gan Gymry), yn arbennig y rhai yn ninasoedd Llundain, Caer, Lerpwl, Amwythig a Bryste.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y ddeunawfed ganrif
Yn ail hanner y 18fed ganrif y gwelir y banciau Cymreig cyntaf yn ymddangos. Un o'r banciau lleol cyntaf i agor yn y wlad oedd Banc y Llong yn Aberystwyth, a sefydlwyd tua'r flwyddyn 1762. Agorai nifer o fanciau bach eraill, yng nghefn gwlad Cymru ac yn yr ardaloedd lle roedd diwydiant Cymru yn dechrau tyfu'n gyflym.
Cyfoeth y porthmyn a'r gwŷr busnes newydd a fentrai i agor pyllau glo neu chwareli oedd yr ysbardun pennaf i'r broses. Am y bancwyr eu hunain, yn achos y banciau bach gan amlaf tafarnwyr, landlordiaid, perchnogion diwydiannau lleol a phorthmon oedd y mentrwyr.
Erbyn 1770 roedd banc ym Merthyr Tudful. Yn 1778 agorodd banc yn Aberhonddu a thua'r un adeg un arall yn Nghaerfyrddin. Y banc annibynnol cyntaf yn y gogledd oedd yr un a agorwyd gan Richard Myddleton Lloyd, gwneuthurwr brethyn, yn Wrecsam yn 1785. Byr oedd hanes y rhan fwyaf o'r mentrau ariannol hyn, fodd bynnag.
[golygu] Y bedwaredd ganrif ar bymtheg
Ar ôl 1815 gwelwyd twf aruthrol yn y cwmnïau bancio preifat yn y de a'r gogledd. Yn y de agorwyd banciau newydd yn Aberhonddu, Caerdydd, Y Fenni, Casgwent, Llanymddyfri a nifer o lefydd eraill. Yn y gogledd y prif ganolfannau oedd Bangor, Amlwch (oherwydd y diwydiant cloddio copr ar Fynydd Parys), Caernarfon, Dinbych, Dolgellau, Yr Wyddgrug a Wrecsam.
Dechreuodd y banciau hyn leihau o 1836 ymlaen wrth i gwmnïau mwy, Cymreig a Seisnig, ddechrau eu prynu. Y banc mwyaf yn y wlad oedd Banc Gogledd a Deheudir Cymru (1836). Ymhlith ei gystadleuwyr oedd Cwmni Bancio Sir Forgannwg.
Agwedd arall ar gynilo arian yn y cyfnod oedd y twf aruthrol mewn cymdeithasau elusennol, yn aml yn gysylltiedig â gweithiau diwydiannol, chwareli ac ati, a'r banciau cynilo cydweithredol fel Y Derwyddon,
[golygu] Yr ugeinfed ganrif
Roedd y rhan fwyaf o'r banciau llai wedi diflannu erbyn yr ugeinfed ganrif. Collwyd Banc Gogledd a Deheudir Cymru i Fanc y Midland yn 1908, er enghraifft.
[golygu] Rhai o'r banciau
- Banc y Llong, Aberystwyth (tua 1762)
- Banc y Ddafad Ddu
- Banc yr Eidion Du (1799)
- Banc Gogledd a Deheudir Cymru (1836 - 1908)
- Cwmni Bancio Sir Forgannwg (1816)
- West of England and South Wales District Bank (1834)
[golygu] Darllen pellach
- R.C. Jones, Arian: the story of money and banking in Wales (Abertawe, 1978)
- Ben Bowen Thomas, Braslun o Hanes Economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)
|
|
---|---|
Banciau Cymru • Busnes yng Nghymru • Daearyddiaeth economaidd Cymru • Diwydiant Cymru • Hanes economaidd Cymru | |
Diwydiannau | Amaeth • Copr • Glo • Gweithgynhyrchu • Gwlân • Llechi |
Economïau yn ôl lle | Abertawe • Caerdydd • Casnewydd |
Categorïau | Banciau • Busnes • Cwmnïau • Diwydiant • Hanes economaidd |