Bardd Plant Cymru
Oddi ar Wicipedia
Gweinyddir anrhydedd Bardd Plant Cymru gan S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Urdd Gobaith Cymru a'r Academi. Pwrpas yr anrhydedd, sydd yn debyg i'r Poet Laureate yn y Saesneg yn Lloegr, yw i hybu barddoniaeth ac annog plant i'w greu a'i fwynhau. Bydd gofyn i'r Beirdd fynychu digwyddiadau i hybu barddoniaeth ac i gynnal gweithdai gyda phlant.
[golygu] Beirdd Plant Cymru
- 2000 Myrddin ap Dafydd
- 2001 Mei Mac (Meirion MacIntyre Huws)
- 2002-2003 Menna Elfyn
- 2003-2004 Ceri Wyn Jones
- 2004-2005 Tudur Dylan Jones
- 2005-2006 Mererid Hopwood
- 2006-2007 Gwyneth Glyn
- 2007-2008 Caryl Parry Jones