Gwyneth Glyn
Oddi ar Wicipedia
Ganed Gwyneth Glyn yn 'Gwyneth Glyn Evans', yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor 14 Rhagfyr 1979 a magwyd yn Llanarmon, Eifionydd.
Aeth i'r ysgol yn Ysgol Gynradd Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Meirion Dwyfor, Pwllheli, cyn mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth o Goleg Yr Iesu, Rhydychen.
Ymunodd â'r band Coca Rosa and the Dirty Cousins cyn rhyddhau ei halbym gyntaf, Wyneb dros dro, ar label Slacyr yn 2005. Rhyddhawyd Tonau, ei hail albym, gan ei label hi ei hun, Recordiau Gwinllan yn 2007.
Hi oedd Bardd Plant Cymru, 2006-2007.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gwaith
[golygu] Llyfrau
- Gwneud Môr a Mynydd (Gwyneth Glyn Evans, Lowri Davies, Esyllt Nest Roberts), Mehefin 2000, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Straeon Bolwyn: Bolwyn a'r Dyn Eira Cas, Tachwedd 2000, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Straeon Bolwyn: Bolwyn yn y Sioe Nadolig, Tachwedd 2000, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Plant Mewn Panig!, Hydref 2004, (Dref Wen)
- Drws Arall i'r Coed, (Gwyneth Glyn Evans, Eurgain Haf Evans, Dyfrig Jones, Caryl Lewis, Manon Wyn), Chwefror 2005, (Sgript Cymru)
- Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo/Sbinia (Gwyneth Glyn a Bedwyr Rees - CD), Gorffenaf 2005, (Cwmni Recordiau Sain)
- Cyfres Pen Dafad: Aminah a Minna, Tachwedd 2005, (Y Lolfa)
- Dramâu'r Drain: Deryn Mewn Llaw, Ionawr 2006, (Y Lolfa)
- Cyfres Codi'r Llenni - Mewn Limbo: Sgript a Gweithgareddau (Gwyneth Glyn a Lowri Cynan), Ionawr 2007, (Y Lolfa)
- Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo, Mai 2007, (Y Lolfa)
[golygu] Albymau
- Wyneb dros dro, 2005, (Slacyr)
- Tonau, 25 Mai 2007 (Recordiau Gwinllan)
[golygu] Gwobrau ac Anrhydeddau
- Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llŷn ac Eifionydd 1998
[golygu] Dolenni Allanol
- [1] Taflen Adnabod Awdur Cyngor Llyfrau Cymru
- [2] Safle MySpace Gwyneth Glyn