Bartholomew Roberts
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Bartholomew Roberts (c.1682 - 10 Chwefror, 1722), o Gasnewydd Bach, Sir Benfro yn fôr-leidr llwyddiannus dros ben yn y Caribî. Mae'n fwy adnabyddus dan yr enw Barti Ddu (Saesneg: "Black Bart").
Yr oedd Roberts yn ail fêt ar y llong Princess pan ymosododd y môr-leidr o Gymro Hywel Davies arni yn 1718. Wedi cipio'r llong, gorfodwyd ef i ymuno a chriw y môr-ladron. Pan laddwyd Howel Davies, chwech wythnos yn ddiweddarach, dewisodd y môr-ladron Roberts i fod yn gapten yn ei le.
Cyn hir yr oedd llawer o siarad am orchestion Barti Ddu a'i long Royal Fortune. Hwyliodd i mewn i lynges o 42 o longau Portiwgal, daliodd garcharor i'w holi pa un o'r llongau oedd y gyfoethocaf ac yna cipiodd y llong honno a'i hwylio ymaith. Dro arall daeth i borthladd yn Newfoundland lle roedd 22 o longau, a ffodd criw pob un ohonynt mewn ofn. Dywedir ei fod yn cadw disgyblaeth dda ar ei griw, ac yn gwahardd diodydd meddwol ar fwrdd ei long.
Gyrrodd y Llynges Brydeinig long ryfel, HMS Swallow dan y Capten Chaloner Ogle, i geisio ei ddal, ac yn 1722 bu brwydr rhwng y llong yma a'r Royal Fortune ger Cape Lopez, Gabon. Ar ddechrau'r ymladd safai Roberts yn ei wisg wychaf yn annog ei griw, ond tarawyd ef yn ei wddf gan fwled a'i ladd. Taflwyd ei gorff i'r môr yn ôl ei ddymuniad. Heb eu capten, ildiodd y gweddill o'r criw, a chrogwyd nifer ohonynt.
Y ffynhonnell bwysicaf ar gyfer hanes Roberts yw'r llyfr A General History of the Pyrates, a gyhoeddwyd ychydig flynyddoedd wedi ei farwolaeth. Ar dudalen deitl yn argraffiad cyntaf yn 1724, rhoir yr awdur fel Capten Charles Johnson; mae rhai ysgolheigion yn credu mai Daniel Defoe, yn ysgrifennu dan ffugenw, oedd yr awdur. Rhoddodd Johnson fwy o le yn ei lyfr i Roberts nag i unrhyw un o'r môr-ladron eraill, gan ei ddisgrifio fel :
... a tall black man, near forty years of age ... of good natural parts and personal bravery, though he applied them to such wicked purposes as made them of no commendation, frequently drinking 'Damn to him who ever lived to wear a halter'.[1]