Beauvais
Oddi ar Wicipedia
Tref hynafol yng ngogledd Ffrainc, prifddinas département Oise yn rhanbarth Picardi, yw Beauvais. Hen enw Galeg: Bratuspantium (sef "Brathbant" yn y Gymraeg).
Y Belofaciaid (Bellovici) oedd enw y llwyth Galaidd a oedd yn trigo yn yr ardal, un o'r grymusaf o lwythau Celtaidd Gâl. Correos oedd arwr mawr y Belofaciaid yn erbyn y Rhufeiniaid.
Mae gan eglwys gadeiriol Gothig Beauvais y to uchaf o'i fath yn y byd. Esgob Beauvais, sef yr esgob Cauchon, a farnodd Jeanne d'Arc yn Rouen.