Bele
Oddi ar Wicipedia
Bele | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Martes martes (Linnaeus, 1758) |
Anifail o deulu'r wenci yw'r Bele neu Bela (Martes martes). Mae oddeutu maint cath, tua 53 cm o hyd ac yn pwyso rhyw un cilogram a hanner ar gyfartaledd. Brown yw lliw cyffredinol yr anifail, yn amrywio o frown golau i frown tywyll.
Fel rheol maent yn byw mewn ardaloedd coediog yng ngogledd Ewrop. Maent yn hela yn y nos gan amlaf, ac yn dal mamaliaid bychan, adar, wyau, llyffantod ac weithiau aeron. Mae'r Bele yn weddol gyfredin mewn rhai rhannau o'r Alban, ond mae cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch ei statws yng Nghymru. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae cryn nifer o bobl wedi dweud eu bod wedi gweld Bela yn rhannau coediog Eryri, yng Nghoedwig Gwydyr yn arbennig, ond does neb wedi cael llun i brofi hyn. Mae "Bele" neu "Bele" yn elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd.
Ar un adeg bu cryn dipyn o hela'r Bela, gan giperiaid oherwydd eu bod yn bwyta cywion ffestantod a chan eraill oedd eisiau eu crwyn, gan fod y blew o ansawdd arbennig o dda. Erbyn hyn maent yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith yn y rhan fwyaf o wledydd. Ychydig iawn o anifeiliaid eraill sy'n fygythiad i'r Bele; dim ond llwynogod a'r Eryr Euraid fel rheol.