Beograd
Oddi ar Wicipedia
Beograd (Београд, Saesneg: Belgrade) yw prifddinas a dinas fwyaf Serbia. Ymsefydlodd pobl y diwylliant Vinča yn yr ardal tua 4800 CC, ac yn y drydedd ganrif CC. ymsefydlodd y Celtiaid yma. Dan y Rhufeiniaid daeth yn ddinas Singidunum.
Cofnodir yr enw Slafeg Beligrad, ffurf o Beograd, sy'n golygu "Y ddinas wen", yn 878. Saif y ddinas lle mae Afon Sava yn llifo i mewn i Afon Donaw. Roedd y boblogaeth yn 1,576,124 yn 2002, y bedwaredd dinas o ran poblogaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar ôl Istanbul, Athen a Bucharest.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Milorad Pavić, A Short History of Belgrade (Dereta, 2000) ISBN 86-7346-117-0
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.