Blaenrheidol
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yng Ngheredigion yw Blaenrheidol. Saif o amgylch rhan uchaf Afon Rheidol, i'r dwyrain o Aberystwyth. Mae'n cynnwys copa Pumlumon a dwy gronfa ddŵr fawr, Cronfa Nant y Moch a Chronfa Dinas, yn ogystal a phentrefi Ponterwyd ac Ystumtuen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 493.