Blathmac mac Cú Brettan
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Blathmac mac Cú Brettan neu Blathmac mac Con Brettan (fl. 760) yn fardd Gwyddeleg (fíle) a ganai ar bynciau crefyddol.
Credir iddo gael ei eni yn ne Airgíalla (Swydd Monaghan heddiw), yn Iwerddon). Cafodd Blathmac ei addysg mewn ysgol fynachaidd ac aeth yn ei flaen i fod yn fynach ei hun, gan gael ei ddylanwadu'n gryf gan y mudiad Céli Dé (Culdee).
Ceir llawysgrif sy'n cynnwys y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi, dau fyfyrdod ar fywyd Crist a'r Forwyn Fair, yng nghasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon, lle cawsant eu hail-ddarganfod gan yr hanesydd llên James Carney. Mae'r llawysgrif ei hun yn dyddio i'r 17eg ganrif.
[golygu] Testunau
- James Carney (gol. a chyf.), The Poems of Blathmac mac Con Brettan (Dulyn, 1964).
[golygu] Ffynnonellau
- Bernard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 2000). ISBN 0-85445-660-6
- Robert Walsh, Oxford Concise Companion to Irish Literature (1996). ISBN 0-19-280080-9