Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg
Oddi ar Wicipedia
Blodeugerdd Gymraeg a olygwyd gan Syr Thomas Parry yw Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (yr Oxford Book of Welsh Verse). Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1962 ac mae mewn print byth ers hynny.
Dyma'r detholiad mwyaf cynhwysfawr o farddoniaeth Gymraeg i weld golau dydd. Roedd yn ychwanegiad pwysig i'r gyfres unffurf o flodeugerddi cynrycholiadol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Gyda dros 565 o dudalennau, mae'n ddetholiad sy'n rhychwantu hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r cychwyn yn y 6ed ganrif i ganol yr 20fed ganrif, o waith Aneirin a Taliesin i gerddi Saunders Lewis a T. H. Parry-Williams.
Er bod rhai beirniaid diweddar yn beirniadu'r golygydd am fod yn geidwadol braidd yn ei ddewis o destunau erys yn gyfrol anhepgor i fyfyrwyr Cymraeg.