Thomas Parry
Oddi ar Wicipedia
Roedd Syr Thomas Parry (1904 - 1985) yn ysgolhaig, beirniad llenyddol a golygydd, a aned yng Ngharmel yn Arfon (Gwynedd), gogledd Cymru.
Bu'n bennaeth ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru (1953 - 1958) pan y penodwyd ef yn brifathro ar Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1958 - 1969).
Golygodd gwaith Dafydd ap Gwilym yn y gyfrol Gwaith Dafydd ap Gwilym ac ysgrifennodd hefyd y gyfrol Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900. Ef oedd golygydd Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (yr Oxford Book of Welsh Verse) (1962).