Blog
Oddi ar Wicipedia
Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei diwedddaru yn gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys megis Blogger, LiveJournal, Nireblog neu Wordpress yw blog.
Mae'r term ''Blog'' yn ddalfyriad o'r term Saesneg ''Web log'', sef cofnod ar y we.
Fel arfer mae cofnod unigol yn cynnwys dolen i wefan arall gyda sylwadau am y ddolen neu gofnod dyddiadur cyhoeddus, ond gellir eu defnyddio ar gyfer sawl perwyl arall. Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol o ffôn lôn (lônflog) neu wedi eu llwytho o gamera digidol.
Mae blogiau'n cael eu hysgrifennu gan bobl pwysig iawn, neu bobl sydd ddim mor bwysig â hynny, a gall pobl ddarllen am eu helyntion a chynnig sylwadau arnynt.
[golygu] Engrheifftiau o flogiau Cymraeg a Chymreig
Mae'r nifer o flogiau sydd ar gael yn y Gymraeg yn parhau i fod yn weddol isel o'i gymharu a ieithoedd eraill tebyg ond daeth cynnydd yn y niferoedd yn nechrau 2003, o bosibl yn sgil dylanwad Morfablog, un o'r blogiau Cymraeg cynharaf, yn unol a thŵf maes-e, gwefan drafod yn Gymraeg, lle bu galw ar bobl i ddechrau blogiau er mwyn cynyddu'r swmp o wefannau a gynhelir yn Gymraeg.
Gellir gweld detholiad o gofnodion o flogiau Cymraeg ar y Blogiadur, o flogiau Cymreig cyfrwng Saesneg ar BlogCymru a chymysgedd o rai yn Gymraeg a Saesneg ar welshblogs
[golygu] Lleoleiddio'r patrymlun i'r Gymraeg
Un peth da am flogiau yw eu hygyrchedd a'r gallu i gyfieithu'r patrymlun i'r Gymraeg. Bydd y rhan fwyaf o flogiau Cymraeg a welwch yn uniaith Gymraeg oherwydd hyn. Mae platfform blogio Nireblog wedi ei leoleiddio i'r Gymraeg.