Bridgnorth
Oddi ar Wicipedia
Tref yn Swydd Stafford, Lloegr, sy'n gorwedd yn Nyffryn Hafren, yw Bridgnorth. Fe'i rhennir yn Low Town a High Town, a elwir felly oherwydd eu safle mewn perthynas ag afon Hafren, sy'n llifo rhyngddynt. Enwir Bridgnorth ar ôl pont ar afon Hafren, a godwyd yn fwy i'r gogledd na phont gynharach yn Quatford. Bridgnorth yw'r dref fwyaf poblog yn ardal Bridgnorth a'i chanolfan. Roedd gan y dref boblogaeth o 11,891 yn ôl Cyfrifiad 2001.
Cyfeiria at Kinver yn y Cytundeb Tridarn (1405) fel un o'r lleoedd sy'n nodi'r ffin arfaethedig rhwng Cymru Fawr a dwy ran Lloegr dan amodau'r cytundeb hwnnw.