Brigit
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma yn delio a'r dduwies Geltaidd Brigit ym mytholeg Iwerddon. Am y santes Wyddelig o'r un enw, gweler Ffraid.
Ym mytholeg Iwerddon, roedd Brigit, Brighit neu Bríg ("un aruchel"), Cymraeg:Ffraid, yn dduwies oedd yn ferch y Dagda, ac felly'n aelod o'r Tuatha Dé Danann) ac yn wraig i Bres, un o'r Fomoriaid. Roedd ganddi ddwy chwaer, hefyd yn dwyn yr enw Brighid, felly ystyrir hi'n un o'r Duwiesau Triphlyg Celtaidd.
Ceir hanes amdani yn Lebor Gabála Érenn, lle dywedir fod ganddi ddau ych, Fe a Men, sy'n pori ar wastadedd a alwyd yn Femen ar eu holau; y Torc Triath (Twrch Trwyth), brenin y baeddod, a Cirb, brenin y defaid. Cysylltir hi a fflamau sanctaidd ac a ffynhonnau, ac roedd yn dduwies uchelfannau, megis bryngaerau. Ymddengys i rywfaint o'i phriodoleddau gael eu troi yn hanesion am y Santes Ffraid (Brigit mewn Gwyddeleg). Roedd y dduwies Brigantia yn cyfateb iddi ar Ynys Prydain, ac mae'n ymddangos fod Brigantia yn cael ei huniaethu ag Athena a Minerva.