Brwydr Hattin
Oddi ar Wicipedia
Ymladdwyd Brwydr Hattin ar 4 Gorffennaf, 1187, ger Tiberias, Galilea (yn Israel heddiw) rhwng byddin Gristnogol Teyrnas Jeriwsalem a'i chyngheiriaid a byddin Islamaidd dan Saladin.
Enillodd Saladin fuddugoliaeth ysgubol, gan ladd llawer o'r Cristionogion, a chymeryd y rhan fwyaf o'r gweddill yn garcharorion. Ymysg y carcharorion roedd Guy o Lusignan, brenin Jeriwsalem.
Yn dilyn y frwydr, cipiodd Saladin ddinas Jeriwsalem oddi ar y Cristnogion ar 2 Hydref, 1187. Ymatebodd y gorllewin Cristnogol i'r digwyddiadau hyn trwy baratoi Y Drydedd Groesgad.