Islam
Oddi ar Wicipedia
Rhan o gyfres ar |
|
---|---|
Athrawiaeth |
|
Arferion |
|
Cyffes Ffydd · Gweddïo |
|
Hanes & Arweinwyr |
|
Ahl al-Bayt · Sahaba |
|
Testunau & Deddfau |
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
|
Enwadau |
|
Sunni · Shi'a | |
Diwylliant & Cymdeithas |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
Islam a chrefyddau eraill |
|
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
|
Islamophobia · Termau Islamig |
|
Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair yw ymostyngiad i ewyllys Duw (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grewyd ganddo. Mae'r gair yn gyfuniad o ddau air, sef salām sy'n golygu "tangnefedd" a'r gair slm sy'n golygu "ymostyngiad." Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw."
Sefydlwyd y grefydd ym Mecca gan y Proffwyd Mohamed (c.570-8 Mehefin, 632). Ymledodd y ffydd yn gyflym yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac mewn llai na chanrif ar ôl marwolaeth Mohamed roedd awdurdod y califfiaid a reolai ymerodraeth yr Umayyad yn ymestyn o Sbaen i Afon Indus yng ngogledd-orllewin India. Erbyn heddiw mae tua 20% o boblogaeth y byd yn byw mewn gwledydd Mwslim, o Foroco yn y gorllewin i Indonesia yn y dwyrain ac o Kazakhstan yn y gogledd i Fali a Swdan yn y de.
Mae Mwslemiaid yn derbyn Ibrahim (Abraham), Musa (Moses), Isa (Iesu Grist) ynghŷd â ffigyrau eraill o'r traddodiad Iddewig-Gristnogol fel proffwydi Duw. Fodd bynnag, credant mai Mohamed yw'r proffwyd mwyaf; yr olaf yn y gadwyn o broffwydi sy'n cychwyn gydag Adda. Credant fod y Coran (Qu'ran) yn air Duw, fel y datguddiwyd ef i Mohamed fesul pennod (sŵra) yn y cyfnod rhwng c. 610 a 632.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Arkân al-Dîn
Mae dilynwyr Islam i fod i ymarddel ac ymarfer Pum Colofn y Ffydd (arkân al-Dîn), a adnebyddir hefyd fel y farâ'idh, y pum egwyddor sanctaidd.
- Y shahâda, Cyffesiad y Ffydd, a ymgorfforir yn y datganiad lâ ilâha illâ'llâh wa Muhammad rasulu Allah ("Nid oes Duw ond Duw a Mohamed yw Negesydd Duw"). Mae rhywun o grefydd arall sy'n datgan hyn yn ddiffuant o flaen dau dyst Mwslim yn cael ei dderbyn fel Mwslim ei hun.
- Y salat (ll. salawât), sef y pum gweddi defodol a adroddir pum gwaith y dydd: ar doriad y wawr (subh), ar ganol dydd (dhuhr), ar ganol y prynhawn (asr), ar fachlud yr haul (maghrib) a dechrau'r nos (ishâ). Dechreuir pob gweddi gyda'r al-Fâtiha, a geir ar ddechrau'r Coran.
- Y zakât, sef rhoi elusen yn ôl gallu'r rhoddwr. Tua 5% o incwm y credadun a argymhellir yn y Coran. Yn aml mae'r mosg lleol yn trefnu hyn ac mae'r arian yn mynd at helpu'r tlodion, pobl gydag anabledd, gweddwon a'r amddifad.
- Y siyâm, sef ymprydio yn ystod Ramadan, y mis sanctaidd. Yr adeg honno mae bwyta, yfed, smygu, gwisgo peraroglau a chael perthynas rhywiol yn waharddedig o doriad y wawr hyd at fachlud yr haul. Nid oes disgwyl i blant ifanc, yr henoed neu rywun sy'n dioddef afiechyd meddyliol ddilyn y rheolau hyn yn gaeth. Mae gwragedd beichiog, mamau sy'n rhoi llefrith i'w babanod, rhywun sy'n dioddef afiechyd a theithwyr yn gallu gohirio'r siyâm a'i chyflawni yn ddiweddarach. Nid ystyrir fod cymryd ffisig yn torri'r ympryd.
- Mynd ar hajj neu bererindod i Fecca. Mae Mwslim yn fod i wneud hynny o leiaf unwaith yn ystod ei fywyd, os ydyw hynny yn ei gallu heb achosi caledi i'w deulu.
[golygu] Hanes Islam
[golygu] Cyfeiriadau
- Gabriel Mandel Khân, Mahomet le Prophète (Paris, 2002). ISBN 2744156868
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) cennet