Bryn Cader Faner
Oddi ar Wicipedia
Mae Bryn Cader Faner yn garnedd o Oes yr Efydd yng Ngwynedd sy'n un o'r hynafiaethau mwyaf tarawiadol o'r cyfnod hwn yng Nghymru.
Saif y garnedd ar y bryn o'r un enw, i'r dwyrain o bentref Talsarnau ac i'r gogledd o Lyn Eiddew Bach a Llyn Eiddew Mawr yn y Rhinogau. Mae ar hen lwybr o Oes yr Efydd, ac mae nifer o hynafiaethau eraill gerllaw, yn cynnwys olion cytiau, cylchoedd cerrig a meini hirion. Mae'n garnedd o gerrig rhyw 8 medr ar draws, gyda meini mwy wedi eu gosod ar ongl ar hyd yr ochrau. Difrodwyd rhan o'r heneb gan y fyddin pan yn ymarfer cyn yr Ail Ryfel Byd.
Gellir cyrraedd yma trwy ddilyn y briffordd A496 tua'r de heibio Talsarnau, troi i'r chwith lle mae arwydd Gwesty Maes y Neuadd, cadw i'r chwith pan mae'r ffordd yma'n fforchio ac yna cymeryd y troead nesaf i'r dde a pharcio ym mhen draw'r ffordd. Gellir wedyn dilyn y trac tua Llyn Eiddew Bach, ond cadw yn syth ymlaen pan mae'r trac yma'n troi i'r dde wedi mynd trwy'r trydydd giât. Mae'r llwybr yma yn awr yn dilyn llinell yr hen drac o Oes yr Efydd, ac yn mynd heibio Bryn Cader Faner ar y dde ymhen tipyn.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1