Oes yr Efydd
Oddi ar Wicipedia
Cyfnodau cynhanes | ||||
H | La Tène | Protohanes | ||
Hallstatt | ||||
Oes yr Haearn | ||||
Oes ddiweddar yr Efydd | ||||
Oes ganol yr Efydd | ||||
Oes gynnar yr Efydd | ||||
Oes yr Efydd | ||||
Chalcolithig | ||||
Neolithig | Cynhanes | |||
Mesolithig | ||||
P | Paleolithig diweddar | |||
Paleolithig canol | ||||
Paleolithig cynnar | ||||
Hen Oes y Cerrig | ||||
Oes y Cerrig |
Cyfnod sydd yn dilyn Oes y Cerrig mewn llawer o wledydd ac y defnyddid y fetel efydd yn bennaf ynddi oedd Oes yr Efydd (a gamenwir yn "Yr Oes Efydd" weithiau yn Gymraeg). Ar ôl Oes yr Efydd daeth Oes yr Haearn.
Mae efydd yn aloi o gopr. Mwyafryf o olion y cyfnod hon yw'n arfau ac yn offer, ond mae nifer o arteffactau defodol ar ôl hefyd.
[golygu] Oes yr Efydd ym Mhrydain
Mae'n debyg y dechreuodd Oes yr Efydd tua 2200 CC a daeth i ben tua 700 CC. Yn ystod y cyfnod hwn daeth pobl newydd o gyfandir Ewrop i Brydain ac mewn canlyniad newidiodd diwylliant Prydain yn gymharol gyflym. Roedd yr hinsawdd yn gwaethygu ar yr un pryd. Roedd y bobl yn y dyffrynnoedd yn codi anifeiliaid ac roedd yr economi yn tyfu. Ar yr un pryd cafodd llawer o goed eu cymynu.
Daeth llawer o'r dun Ewrop o Gernyw a llawer o gopr o Gymru, yn bennaf o Ben y Gogarth. Yn ne Lloegr datblygwyd diwylliant cyfoethog iawn, y diwylliant Wessex a daeth strwythr cymdeithas yn fwy cymhleth.
Yn groes i arfer gyffredin y Neolithig, cafodd pobl eu claddu'n unigol; cyn Oes yr Efydd roedd tuedd i'w claddu gyda'i gilydd.