Bryste
Oddi ar Wicipedia
Bryste
|
|
---|---|
Dinas Bryste (sir, dinas ac awdurdod unedol)
|
|
Lleoliad Bryste | |
Sir seremonïol | Bryste |
Sir hanesyddol | Sir Gaerloyw (a rhan yng Ngwlad yr Haf) |
Daearyddiaeth
|
|
Arwynebedd | 343.4 km2 km² |
Demograffeg
|
|
Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) | 380,615 |
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) | 398,300 |
Gwleidyddiaeth
|
|
Aelod seneddol | Roger Berry Kerry McCarthy Doug Naysmith Dawn Primarolo Stephen Williams |
Mae Bryste (Saesneg: Bristol) yn ddinas yng ngorllewin Lloegr, yn agos i Fôr Hafren a phontydd Hafren. Fe'i hadnabyddid hefyd fel Caerodor yn Gymraeg yn y 18fed a'r 19eg ganrifoedd. Mae'r enw 'Bryste' yn dod o'r Hen Saesneg Brycgstow "lle'r bont". Mae'r "l" ar ddiwedd y ffurf Saesneg yn tarddu o un o nodweddion tafodiaith Saesneg Bryste, sef ychwanegu "l" weithiau ar ddiwedd geiriau sy'n gorffen gyda llafariad. Mae'r ddinas wedi datblygu yn bennaf fel porthladd ac roedd masnachu caethweision yn bwysig iawn ar un adeg. Mae Bryste ar ffin siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf, ac Afon Avon yn eu rhannu.
Yn y 18fed ganrif roedd Bryste'n ganolfan bwysig ar gyfer gwaith porslen ac yn cystadlu yn y farchnad honno â gweithfeydd Plymouth a Dresden.
Mae pont grog enwog ym Mryste, Pont Grog Clifton, ar draws Afon Avon, a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel.