Caint
Oddi ar Wicipedia
Sir yn Lloegr yw Caint (Saesneg: Kent), yng nghongl dde-ddwyreiniol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 1,610,400 ac arwynebedd o 3,736 km³. Maidstone ydyw prif dref y sir. Mae Caint yn ffinio ar Surrey a Sussex i'r gorllewin, ar Essex i'r gogledd, ar draws Afon Tafwys, ac, mewn ffordd, ar Ffrainc i'r de-ddwyrain drwy Dwnnel y Sianel. Mae gogledd-orllewin y sir wedi'i lyncu o dan faestrefi Llundain.
Y sir hon ydyw'r agosaf at dir mawr Ewrop - dim ond 21 filltir neu 34 km sydd rhwng Dover a Cape Gris-Nez, gogledd Ffrainc.
Mae tarddiad yr enw Caint yn dyddio'n ôl i'r Brythoniaid, o bosib i lwyth y Cantiaci. Awrgrymwyd hefyd bod cysylltiad rhwng 'Caint' a'r gair Cymraeg 'cantel' (ymyl), gan ei bod ar 'ymyl' Prydain Fawr. Dyma'r rhan gyntaf o Loegr i gael ei gwladychu gan lwythau Tiwtonaidd y Saeson - yn yr achos yma y Jutiaid a greodd deyrnas Seisnig Caint, yng nghanol y bumed ganrif, a barhaodd nes cael ei llyncu gan Wessex. Gelwid Saeson Caint yn 'Cantwara', a Chaergaint oedd eu prifddinas. Er bod enwau Celtaidd yn weddol prin yng Nghaint o'i gymharu ac ardaloedd eraill Lloegr, mae nifer o enwau lleoedd o darddiad Brythoneg[1], er enghraifft Thanet a Dover. Mae rhai haneswyr, megis Myres, wedi gweld parhâd nifer o enwau lleoedd Brythoneg yma fel tystiolaeth i'r boblogaeth frodorol oroesi yma'n well nag mewn ardaloedd eraill de-ddwyrain Lloegr.[2]
Daeth Sant Awstin â Christionogaeth i Gaint yn niwedd y chweched ganrif.
Enw arall a roddir ar Gaint yw'r 'Garden of England' (Gardd Lloegr) oherwydd ei thraddodiad amaethyddol. Mae hopys, i wneud cwrw, yn gnwd traddodiadol yng Nghaint, ac mae'r odyndai ('oast-houses'), lle sychir yr hopys, yn dal yn nodweddiadol o dirwedd y sir.