Côr Rhuthun
Oddi ar Wicipedia
Sefydlwyd y côr blaenllaw hwn nôl; yn 1979; fel rhan o Aelwyd yr Urdd, Rhuthun a gweithgareddau 'Urdd 2000'. Roedd gan y côr yn wreiddiol ddau arweinydd: Beryl Lloyd Jones a Morfydd Vaughan Evans. Ar ol tipyn newidiwyd yr enw i Gôr Ieuenctid Rhuthun ac yna yn syml: Côr Rhuthun. Daethpyd a'r arweinyddion at ei gilydd gan drefnydd yr Urdd ar y pryd, sef Robin Llwyd ab Owain.
Cyhoeddwyd nifer o grynno-ddisgiau gan y côr gan gynnwys efallai yr enwocaf: 'Atgof o'r Sêr' gyda Bryn Terfel yn unawdydd amlwg. Dyma'r côr cyntaf i ganu caneuon poblogaidd gan gantorion modern megis Caryl a Dafydd Iwan; dilynwyd hwy gan eraill megis Côr Llanelli'n canu 'Y Dref Wen'.
Yn Ionawr 2008 penodwyd y cyfansoddwr Robat Arwyn fel arweinydd (a chyfeilydd) i'r côr.