Rhuthun
Oddi ar Wicipedia
Rhuthun Sir Ddinbych |
|
Mae Rhuthun yn dref fach, oedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0). Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar lan Afon Clwyd yn ne Dyffryn Clwyd. Mae'r A494 a'r A525 yn rhedeg trwyddi. Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tuag 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19eg ganrif.
[golygu] Hanes
Codwyd castell yn Rhuthun gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280.
Ar 16 Medi, 1400, llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun i lawr, heblaw'r castell. Mae plac yn nodi'r ffaith hon ar fanc y Nat West, yr adeilad o flaen yr un presenol a losgwyd gyntaf gan Owain. Ymunodd llawer o drigolion Rhuthun gydag Owain gan ymosod wedyn ar Ddinbych, Rhuddlan ac yna Fflint. Ar y plac mae dyfyniad o waith y prifardd Robin Llwyd ab Owain:
'Yn dy galon di... Glyn Dŵr!'
Yn ddiweddar agorwyd drysau Ty Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre) i'r cyhoedd, adeilad sy'n dyddio nol i oddeutu 1445.
Gall y cyhoedd hefyd ymweld â'r Hen Garchar a adferwyd yn ôl i'w ogoniant cynnar yn ddiweddar. Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:
Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn, A'i wedd yn ddigon trist...
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:
[golygu] Dolenni allanol
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Cefn Meiriadog | Corwen | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |