Caban F'ewyrth Twm
Oddi ar Wicipedia
Mae Caban F'ewyrth Twm yn nofel a gyhoeddwyd fel Uncle Tom's Cabin, or Life Among the Lowly, gan yr awdur Americanaidd Harriet Beecher Stowe yn 1852. Roedd y nofel wedi ei bwriadu fel ymosodiad ar gaethwasiaeth, a bu'n llwyddiant enfawr. Ystyrir bod y nofel wedi bod a rhan mewn creu'r agweddau a arweiniodd ar Ryfel Cartref America. Dywedir i Abraham Lincoln, pan gyflwynwyd Harriet Beecher Stowe iddo yn ystod y rhyfel, wneud y sylw "Felly dyma'r ddynes fach a ddechreuodd y rhyfel mawr yma".
Ymhlith y dylanwadau ar y nofel, roedd hunangofiant Josiah Henson, cyn-gaethwas oedd wedi llwyddo i ddianc i Ganada yn 1830. Bu Stowe hefyd yn siarad a chryn nifer o gaethweision a chyn-gaethweision i gasglu deunydd ar gyfer y llyfr.
Gwerthwyd mwy o gopiau o Uncle Tom's Cabin nag o unrhyw lyfr arall yn ystod y 19eg ganrif ag eithio'r Beibl. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol.
Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf, gan Hugh Williams dan y teitl Caban F'ewyrth Twm, yn 1853. Ond cyn hynny roedd addasiad gan William Rees (Gwilym Hiraethog) wedi ymddangos fel pennodau wythnosol yn Y Faner, papur newydd Rhyddfrydol Thomas Gee: fe'i cyhoeddwyd fel Aelwyd F'Ewythr Robert ym Medi 1853. Mae Gwilym Hiraethog yn rhoi gwisg Gymreig i'w addasiad trwy ei osod mewn fframwaith o deulu ym Meirionnydd yn darllen Caban F'ewythr Twm (sef cyfieithiad Hiraethog o'r nofel) gyda'r nos ac yn trafod ei arwyddocád yng nghyd-destun Radicaliaeth Gymreig y cyfnod. Cafodd fersiynau Rees a Williams eu hailargraffu nifer o weithiau yn ail hanner y 19eg ganrif.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Raymond B. Davies "Caban f'ewyrth Twm" Y Casglwr 68 (2000), tt. 6-7 .