Cadell ap Rhodri
Oddi ar Wicipedia
Roedd Cadell ap Rhodri (bu farw 909) yn frenin Seisyllwg yn ne-orllewin Cymru.
Roedd Cadell yn fab i Rhodri Mawr. Ar farwolaeth ei dad yn 878 etifeddodd Seisyllwg, ac yn 904/905 cipiodd Deyrnas Dyfed a rhoddodd hi i'w fab, Hywel Dda, i'w rheoli. Pan fu farw Cadell yn 909, unodd Hywel y ddwy deyrnas i greu teyrnas Deheubarth.