Rhodri Mawr
Oddi ar Wicipedia
Rhodri Mawr, enw llawn Rhodri ap Merfyn (c. 820–878) oedd y brenin cyntaf i reoli'r rhan fwyaf o Gymru a'r cyntaf hefyd i gael ei alw'n "Fawr".
Yr oedd Rhodri yn fab i Merfyn Frych, a ddaeth yn frenin Gwynedd ar farwolaeth ei dad yn 844, a'r dywyoges Nest o Bowys. Pan fu ei ewythr Cyngen, brenin Powys, farw ar bererindod i Rufain yn 855, etifeddodd Rhodri ei deyrnas ef hefyd. Yn 872 boddwyd trwy ddamwain Gwgon ap Meurig, brenin Ceredigion a Seisyllwg, ac ychwanegodd Rhodri ei deyrnas yntau at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon. Yr oedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru.
Yr oedd Rhodri yn gorfod wynebu pwysau gan yr Eingl-Sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a fuont yn ôl y croniclau yn anrheithio Môn yn 854. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid, gan ladd eu harweinydd Gorm (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus wedi ei hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr.
Yn 877 ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro yma bu raid iddo ffoi i Iwerddon. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan y Saeson, er na wyddir y manylion. Pan enillodd ei fab Anarawd ap Rhodri fuddugoliaeth dros wŷr Mersia ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe'i dathlwyd yn y brutiau fel "Dial Duw am Rodri".
[golygu] Llyfryddiaeth
- John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest(Longmans, Green & Co, 1911)
- Ceinwen H. Thomas, "Rhodri Mawr", yn Ein Tywysogion (1954)
O'i flaen : Merfyn Frych ap Gwriad |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Anarawd ap Rhodri |