Cae Gaer
Oddi ar Wicipedia
Caer Rufeinig ym Maldwyn, Powys, yw Cae Gaer. Mae'r safle yn gorwedd yn uchel ym mhlwyf Llangurig 2 filltir i'r dwyrain o'r bwlch sy'n cael ei groesi gan draffordd yr A44 heddiw, i'r de o fryniau Pumlumon.
Dyma un o'r caerau Rhufeinig mwyaf anghysbell ym Mhrydain. Efallai ei bod yn gorwedd ar lwybr ffordd Rufeinig anhysbys y credir ei bod efallai yn cysylltu caerau Caersŵs, i'r gogledd, a'r Trawscoed i'r de.
Lleolir y gaer ar darn o dir agored yng nghanol un o goedwigoedd y Comisiwn Coedwigaeth, ar bwys nant sy'n rhedeg i lawr o'r bryniau i'r de i ymuno yn Afon Tarenig, un o ledneintiau afon Wysg, sydd a'i chymer yn yr afon honno filltir a hanner yn is i lawr.
Caer fechan o siâp paralelogram ydyw. Efallai fod y siâp anghyffredin wedi cael ei phenderfynu oherwydd gofynion y safle, ar lwyfan gyfyng ar lethr y bryn. Bu ganddi ddau borth ond mae'r un deheuol wedi'i erydu i ffwrdd gan y nant. Cafodd y safle ei gloddio yn 1913 a datguddiwyd clawdd tywarch 5 medr o led gydag olion polion ynddi, i gynnal ffens o bren yn ôl pob tebyg. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth archaeolegol i ddangos pryd y codwyd y gaer.
[golygu] Cyfeiriadau
- Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978)
- I. A. Richmond, 'Roman Wales' yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caer Gybi | Caerhun | Castell Caerdydd | Castell Collen | Maridunum | Pen Llystyn | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |