Caer Gybi (caer)
Oddi ar Wicipedia
Roedd Caer Gybi yn gaer Rufeinig sydd yn awr yng nghanol tref Caergybi, sy'n cymeryd ei henw o'r gaer.
Mae'r gaer ar lechwedd creigiog uwchben y môr, gyda muriau ar dair ochr a'r traeth ar y bedwaredd ochr, yn ffurfio hirsgwar 75 medr wrth 45 medr. Credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif. Credir bod y gaer yma at ddefnydd y llynges Rufeinig.
Ym muchedd Sant Cybi mae cyfeiriad at frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu clas (mynachlog). Bellach mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau yn dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Frances Lynch, A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd (HMSO, 1995)
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caer Gybi | Caerhun | Castell Caerdydd | Castell Collen | Maridunum | Pen Llystyn | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |