Campione d'Italia
Oddi ar Wicipedia
Tiriogaeth Eidalaidd sy'n gorwedd yn gyfangwbl yn y Swistir yw Campione d'Italia. Fe'i lleolir yn nhalaith Eidaleg ei hiaith Ticino, yn ne-ddwyrain y Swistir. Er ei bod yn gymuned (commune) sy'n rhan o'r Eidal mae'r Campione wedi'i hintegreiddio mewn sawl agwedd o fywyd economaidd a gweinyddol y Swistir. Dyma'r unig ran o'r Eidal sydd ddim yn defnyddio'r Ewro, gan ddefnyddio Ffranc y Swistir yn ei lle.